Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (184)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
|
3 Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ar Isafswm Lefelau Staffio Nyrsys (Kirsty Williams) (60 munud) NDM5402 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Kirsty Williams gyflwyno Bil i weithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i:
http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-046.htm
|
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r cyfartaledd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cylch gwaith a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.
|
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5441 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel canolfan ar gyfer arloesi a diwydiant;
2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n seiliedig ar allforio ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol;
3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i asesu'r gallu i allforio; a
4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial mwyaf posibl busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’ a rhoi yn ei le ‘fel cenedl o entrepreneuriaeth, creadigrwydd, diwydiant, arloesedd cymdeithasol ac economaidd’
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod pwysigrwydd allforio, mewnfuddsoddi a masnach o fewn y DU o ran unrhyw strategaeth ar gyfer llwyddiant economaidd i Gymru.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd aelodaeth Cymru o’r Undeb Ewropeaidd i fusnesau Cymru a’r potensial o ran allforio, gyda 44% o allforion Cymru’n mynd i aelod-wladwriaethau eraill yr UE.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘bod’ a rhoi yn ei le ‘rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu dulliau newydd i asesu’r gallu i allforio; a’
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4, dileu ‘busnesau cynhenid’ a rhoi yn ei le ‘busnesau a leolir yng Nghymru’. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud) NDM5445 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Llong Ganoloesol Casnewydd – Wedi'i suddo ym 1469 ac yn 2014?
Cynyddu ymwybyddiaeth ac arwyddocâd hanesyddol unigryw'r llong hon i sicrhau ei chadwraeth a'i harddangos yng Nghasnewydd. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2014